Main content

Y CWPS: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Cadw tÅ·

TÅ· (Yr Ysgwrn)

Os tyner yw’r lleuad heno,
nid llai, nid llai yw brifo
nosau swil hen noswylio;

fe aeth blynyddoedd yn yfflon,
ond ym mwsog y galon
y mae hiraeth ym Meirion;

hiraeth yw hwnnw o’r newydd
yn y gwawrio tragywydd,
yn y maen hwnt i’r mynydd;

ond ym Meirion mae inni’r muriau:
tŷ diriaethol i’r dagrau
a gwaed oer hen gadeiriau.

Dafydd John Pritchard
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

30 eiliad