Main content

Y CWPS: Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Esgusodion

Y CWPS: Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Esgusodion

Rhowch i mi esgusodion a hynny yn ddi-lol
Tros beidio bod yn Gymro, rwyf wedi cael llond bol.

Mae gen i rai yn barod, sydd yn fy rhwystro i
Rhag bod yn Gymro cyflawn. Fe’u rhestraf ddau neu dri:

Nid wyf yn gallu canu, ni fûm erioed mewn côr,
Ni allaf chwarae rygbi, mae gwylio’r gêm yn bôr.

Nid wyf yn arddwr medrus. Mae ‘ngwinllan wen tan ddrain,
A’r moch yn sathru trosti yng nghwmni brwd y brain.

Fe esgeulusais hefyd, fel Cymro, ‘mhriod waith,
Sef magu clamp o deulu er mwyn trosglwyddo’r iaith.

Ymhellach dwi ‘di blino, ymbilio yn ddi-baid,
Am ffurflen neu dystysgrif yn iaith fy Nain a ‘Nhaid.

A heddiw ym mro fy ngeni, lle bu’r Gymraeg mor bur
Nid oes ond llu dieithriaid a’u swrth acenion sur.

A nawr rwyf am ymuno â’r lleng sy’n llethu’r wlad
A cheisiaf esgusodion dros wadu fy ystâd.

Mae bywyd ar y dibyn yn un sy’n llawn o stress
Does ryfedd ‘mod i’n ysu i ddianc rhag y mess.

Ond waeth heb geisio esgus, er gwaned yw fy llais,
Fe wn er gwneud pob ymdrech, na fyddaf byth yn Sais.

Dafydd Morgan Lewis
8

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau