Main content

Y FFORDDOLION: Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn ymddiheuro

Cywydd yn ymddiheuro i’r dodo

O ddodo! Wyt ddywedwst!
Wyt ddoe o hyd... och, wyt ddwst!
Ni chaiff cywion neidio nyth,
ni heliwn dy wehelyth,
ni hawliodd ’run Nadolig
dy gael yn blated o gig;
ni chei lais mewn sied na chlos
diwydiant ffermio dodos –
bwytwn y tyrcwn teircoes
yn lle foie gras gorau’r oes.

Hwy, y gwŷr a’th heliodd gynt...
llofruddion llwfr oeddynt.

Emyr Davies
10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

51 eiliad