Main content

Y CWPS: Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn ymddiheuro

(I‘r ‘digrifwr’ Griff Rhys Jones a gwynodd yn ddiweddar fod actorion yn Abertawe wedi siarad Cymraeg o’i flaen ‘bron fel petawn i ddim yn bodoli’ a bod rhai yn defnyddio’r iaith fel ‘grym negyddol’.)

Be’ haru ni, Brenin Ne’n
Mwydro fel petaem adre’n
Ein hiaith od ni, iaith dy nain,
Â’n gilydd, a’r ddwy’n gelain?
Maddau inni, Griff, am ddwyn gwrid
I’th rudd, am sathru rhyddid
Lloegr sy’n d’alluogi
I fyw’n dy un iaith fain di.
Gwn iti ganmol ganwaith
Gymru Wen – ac am yr iaith,
Gwell ei gweld ar seld yn saff,
Neu’n wargrwm mewn beddargraff.

Huw Meirion Edwards
10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

42 eiliad