Main content

CRIW'R LLEW COCH: Cân ysgafn 'Cadw Sgôr'

Rhoi’r biniau sbwriel allan ar nos Lun
Rhoi’r dillad budur yn y bocs mawr pîn
Trwsio olwyn fflat y beic a’i bwmpio
Trwsio tedi a phedal y piano
Gwneud wy ar dost a yogurt i bwdin
Creu rhestr , siopa a’u cadw nhw wedyn
Mynd i wylio’r mab yn chwarae rygbi
Mynd i’r Steddfod Sir, wedyn cael ein siomi
Torri coed, palu’r ardd a phaentio’r shed
Gwneud swper tra’n gwrando’r ymarfer corned
Darllen papur, cael paned a hwfro
Darllen gwaith cartref, cael paned tra’n smwddio
Hanci-a-Panci Doctors a Nyrsus
Cur Pen, Cur Pen, Cur Pen, Cur Pen, a Chur Pen
Trefnu ‘efo’r garej i’r ceir gael M.O.T.
Trefnu’r Dolig a’r gwyliau -! Cant o bwyntiau i mi !

“Pwyntiau ? “ meddai’r gwr “ Am be’ wyt ti’n gyboli ?â€
“Wel y pwyntiau’n ‘de – y rhai dwi’ di bod yn cyfri -
A sgen ti ddim digon i fynd allan nos Sadwrn -
Ond dwi ‘di hel digon i fynd draw i’r Talwrn!

Mair Tomos Ifans
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud