Main content

HIRAETHOG: Cywydd 'Athro neu Athrawes'

Fy athro cynradd, y diweddar Dewi Tomos

Un tawel fu’n ein tywys
hyd wedd bro, cyn dyddiau brys;
a Dyffryn Nantlle’n llenwi
ein llyfrau a’n hafau ni.

Troi’r llechi’n domenni dysg
yn rhwydd, gan roi gwir addysg.
O’i huodledd ‘n y chwedlau;
rhwng rwbel chwarel ‘di’i chau,
dysgais am werth fy mherthyn –
‘n etifedd llechwedd a llyn.

Heddiw, ail agor cloriau
yw’r wefr wrth i’r daith barhau.

Ffion Gwen
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

36 eiliad