Main content

CRIW'R LLEW COCH: Cywydd 'Athro neu Athrawes'

I Tom yr Erw
Ein prifathro, Plato’r plwy’,
Meddai ar holl gof Mawddwy;
Cefn gwlad mewn dillad-pob-dydd
A ganai lwybrau’r gweunydd,
O olion Llwybr Llywelyn
Heibio’r Ro at Blas-y-Bryn.
Ei ddosbarth – buarth bywyd;
Neb o bwys yn datgloi’n byd
A’i ymroi’n datgloi’n cefn gwlad.
Eleni dan ddylanwad
Ein athro bro cawn barhau
I raddio’n nysg ein gwreiddiau.

Tegwyn Pughe Jones
10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

40 eiliad