Main content

Pleidleisio gan Karen Owen

Cerdd foliant i hoff fardd Cymru Gwyn Thomas gan fardd preswyl Radio Cymru Karen Owen

PLEIDLEISIO
(ar ddewis Gwyn Thomas yn 'Hoff Fardd Cymru' gan wrandawyr Radio Cymru, ar Fai 1, 2014 - mis ymgyrchu etholiadau Ewrop)

Aeth holi cyn etholiad
a dweud y lein hyd y wlad
yn siwr yn drech o siarad;

Rhoi i farn ragfarn yr awr,
i gynfas ego enfawr
a'r piniwn mwy i'r pen mawr;

Rhoi i fôt ei geirfa hael,
cred eithaf (ond diafael)
i giw gwadwyr ei gadael;

Rhoi ein meic dan drwyn y mud
a'u hofer barabl hefyd,
eu haddo am byth yn ddim byd;

Am hynny'n awr, mae'n Mai ni
yn waelach gan yr holi
a'i balot heb gyboli;

Ni'r halen ar arolwg
drwy hyn, am fod dynion drwg
ddoe'n gelwydd yn ein golwg.

* * *

A heddiw, holl lenyddiaeth
ein hoes ni yn 'lecsiwn aeth!
Am mai rhaid y Gymru hon
yw rhoi'r dydd i'w phrydyddion;
dewis un o'r dwsinau
yn arwr iaith i barhau -
arwr fydd byth yn marw
na rhifo llwch, ar fy llw.

Ac enw'n tad yw Gwyn Tom,
ei dân yw'r Celtiaid ynom,
Duw yr oesoedd sydd drosom
a'r Mabinogi rhagom,
ein gwlad, ei siarad a'i siom;
pob croesi traeth a wnaethom,
a'r wên sy'n gwefru ohonom.

Naddodd, ar sgrin, lunyddiaeth
o fynydd du canu caeth;
a chwilio am drychiolaeth,
tragwyddol ysbrydoliaeth,
y rhyddid mewn seryddiaeth;
yr hyn a ddaw a'r nawdd a aeth,
marw, amau a hiraeth.

I gred, i weithred Athro,
y mae 'na ran i Monroe,
ac i gowbois mae gobaith
heno'n salwns eu hail iaith,
a thrwy Gymro'r bocsio bydd
awen yn taro'n newydd;
Gwyn hýn nag egni'i henoed
heddiw yw Gwyn yn ddeg oed.

Bob lein o law y Blaenau,
y molawd o'i chymylau
a'r ias o Dan-y-grisiau;
rhin cân o awyr yn cau
a'r llechen sy'n ei enau,
yn domen ar ddalennau
y gwr, ein craig o eiriau.

Yn oesol, bydd etholiad
yn galw i le senedd gwlad;
ond unwaith y daw dynion
i ddewis a ddaw i'w swydd hon.

Karen Owen
Bore Cothi, Mai 9, 2014

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau