Main content
PENLLYN: Telyneg neu soned 'Dieithryn'
Drws cadarn sy’n dal yn fur yn y co
Rhwng y bywyd fu a’i fwrlwm atgofion
A’r bodoli llwm tu draw iddo fo.
Rwy’n dal i guro, curo’r styllod cryfion,
Ond dim ond atsain chwithig ddaw yn ôl,
Yn ôl hyd wacter oer y coridorau.
Curaf eto, er gwybod pa mor ffôl
Fy nhaerineb dwl, ofer y curiadau.
Dieithryn wyf fi bellach yn fan hyn
Nid yw yr un a geisiaf yma mwyach.
Ond gwelaf hi yn glir, a’i llygaid syn
Yn edliw im yr haeddai hi amgenach.
Ond dro rôl tro, o gau fy llygaid innau, gwn
Y gwelaf hi fel roedd cyn y dieithrwch hwn.
Beryl Griffiths
8.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 04/05/2014 - Criw'r Ship yn erbyn Penllyn
-
CRIW'R SHIP: Cân ysgafn 'Golau Glas'
Hyd: 00:52
-
PENLLYN: Cân ysgafn 'Golau Glas'
Hyd: 01:49
-
CRIW'R SHIP: Telyneg neu soned 'Dieithryn'
Hyd: 00:31
-
PENLLYN: Enlgyn 'Tywod'
Hyd: 00:13