Main content

CRIW'R SHIP: Telyneg neu soned 'Dieithryn'

Fi fy hun
sydd yn fy mhen
o hyd,
yn byw a bod.

Yn fy mhen,
heb daw
o hyd,
y fi sy’n llenwi myd.

Ac er i'n dau
gydfyw cyhyd
a rhannu byd,
rwyt tithau
weithiau,
yn dy ben
yn ddieithr i mi.

Yn fy ngôl
daeth bydoedd bach
i lenwi nydd,
a bum yn byw
pob cam, pob gair
ac anadl ynghyd.

Ond yn eu llygaid
gwelaf
fi fy hun,
yn ceisio dirnad
pob un rhan
o'u bod.

Yn fy mhen
mi wn
wnai fyth adnabod neb…
ond fi fy hun.

Nia Môn
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

31 eiliad