Main content

PENLLYN: Pennill ymson mewn ystafell newid

Y mae hi’n dawel heno
Yng nghartref tîm Bryn Coch
Aeth Harri o’ma i chware,
Ni chlywn ni weiddi croch
Gan Arthur Picton mwyach
Na George, na Tecwyn chwaith
Fe aethant hwy o’r pentref
Ymhell i ganfod gwaith.

Fe glywais si bod Tecwyn
Yn athro parchus iawn,
A George yn ben pwysigyn
A’i waled yn bur lawn.
Ond er mor ryfedd meddwl
Am dynged hogie’r wêr
Rhyfeddod mwy oedd gweled
Y bos ar Go Compêr.

Beryl Griffiths
8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

31 eiliad