Main content

PENLLYN: Cywydd yn gofyn am ddychwelyd rhywbeth a fenthyciwyd

Amser
A sŵn gwae yn sain y gaeaf
Ni wn i pa beth a wnaf.
Mae dalen fy ddoe heno
A’i inc hallt yn pigo’r co,
A nodyn lleddf nid un llon
Yw’r nos wrth fyw’r hanesion.

Eithr yr un fu’r daith erioed,
Anodd wynebu henoed
Heb ryddid y boreddydd.
Yn dyheu daw eto’r dydd
A phrofiadau dechrau’r daith
I un ifanc llawn afiaith.

Dylan Davies
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

26 eiliad