Main content

TANYGROES: Cân ysgafn 'Siopa dillad'

TANYGROES: Cân ysgafn 'Siopa dillad'

Fy nhrowsus rib oedrannus a’i liw nawr bron yn wyn,
Mae patsyn ar ben patsyn ar goesau’r llodrau hyn.
O’r golwg mae y gwreiddiol, lliw oren golau sydd
A siocolet lliw olaf, a’r sip ar ben ei dydd.
Yn ifanc bu’n brasgamu yn llon tros fryn a dôl
Yn cadw’r gwynt gaeafol o fola a phen-ôl.
Do, cafodd gynt ei ostwng, mewn gallt neu borfa fras
Gerllaw rhyw glwmp dail tafol ger côr o gilion glas.
Ar lwyn yn nawr ei hanes, yn herio’r gwynt ma’ nhw
Yn darged i’r gwylanod a gwawd y gwdihŵ.
Ond beth am drowsus arall, i siopa i Oxfam es -
Ro’dd pob math o drowseri yn hongian yno’n rhes.
Ro’dd denims ar ôl hipis, rhai o amrywiol liw’n
Cyfyngu popeth ynddynt o eiddo dynol ryw.
Ro’dd trowsus ar ôl heddwas a’i goesau heb ddim crych
’Rôl rhwbio’n sêt ei Honda, pen-ôl â sglein fel drych;
Ro’dd trowsus ’rôl gweinidog, efallai Jiwbilî -
Pe’i gwisgwn ger Iorddonen, yn hawdd y croeswn hi.
Mi brynais got â chwtws a hefyd buwch a llo:
Rwy nawr yn carthu’r beudy mewn trowsus Saville Ro'.

10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau