Main content

ABERHAFREN: Pennill ymson mewn cynhadledd i'r wasg

Fi yw’r rheolwr, a fi yw’r olaf
bob tro i gwyno, ac ni ddisgynnaf
i gollfarnu’r reff (yr hwn nad effiaf)
na’r leinsman gwan. Er cael pedwar anaf,
am stad y pitsh ni fitshiaf. Ond y rhain
(heb ddim wylofain) oedd y bai’n bennaf.

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

25 eiliad