Main content

ABERHAFREN: Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cychwyn ac yn gorffen Γ’'r un gair

I Wynedd un diweddydd
ar ei farch trwy’r Gymru fydd
dan glog y daeth swyddog sir.
Pwyntiodd ar hyd y pentir
efo bys fel gwn twelf bΓ΄r
ac angau lond ei gyngor
yna dweud, β€œwyth mil o dai
o fudd i’ch daear fyddai”.
Am reid yr aeth sawl gwleidydd -
ar eu hΓ΄l roedd tyweirch rhydd,
rhyw bwt o bader, a bedd
ar ei hanner i Wynedd.

9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

31 eiliad