Main content

TANYGROES: Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cychwyn ac yn gorffen â'r un gair

Teg edrych a gweld ychain
Ar y maes ’rôl tymor main
Yn neidio a phrancio’n ffri
O dennyn eu cadwyni.
Gloywon pob un ohonynt
Yn ôl ar wanwynol hynt.

Clywch fref y famog hefyd
Ym môn y clawdd mewn man clyd;
Hithau yn gweld y gwaethaf
Heibio, a daw eto haf.
Heno i lunio telyneg
Af â ffydd i’r tywydd teg.

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

27 eiliad