Main content

BEIRDD MYRDDIN: Telyneg mewn mydr ac odl (heb fod dros 18 llinell) 'Holi'

Pwy
Pwy lenwodd y dryll a’i anelu?
Pwy deimlodd y ddinas yn crynu?
Pwy gydiodd mewn cyrff a’u hanwylo?
Pwy sychodd y gwaed ar eu dwylo?

Pwy oedodd cyn tanio’r bwledi?
Pwy glywodd y fam gyda’i gweddi?
Pwy welodd hi’n tyrchu trwy’r rwbel?
Pwy sychodd ei dagrau hi’n dawel?

Pwy werthodd yr arfau i’r gelyn?
Pwy wadodd gwneud hynny wedyn?
Pwy wenodd yn fuddugoliaethus?
Pwy sychodd y chwys uwch ei wefus?

Aled Evans
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

36 eiliad