Main content

CRANNOG: Telyneg mewn mydr ac odl (heb fod dros 18 llinell) 'Holi'

Paid holi dim o’r cwestiynau mawr,
‘Sdim lle i farc cwestiwn mewn telyneg nawr.

Tafla’r amheuon i’r gogledd a’r de
A gad iddynt ddisgyn o gwmpas y lle.

I ddilyn y chwalfa, yn dy amser dy hun,
Cer ati i geisio rhoi ystyr i’r llun

A ‘falle wrth gasglu y darnau ynghyd
Cei ateb i’r cwestiwn a’th boenodd cyhyd.

Hywel Rees
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

29 eiliad