Main content

BEIRDD MYRDDIN: Cywydd dyfalu (heb fod dros 12 llinell) i unrhyw wrthrych

Un annwyl yw ei wyneb
Ond ni wêl damaid o neb.
Er mynd a mynd mae o hyd
Yn symol o ddisymud.
Trwy'r tÅ· mae ei ganu gog
Yn galw fel rhyw geiliog.
Anniddig yw ei igian
A mwy yw mewn oriau mân,
Ei dwrw'n anhosturiol -
Damnia hwn nad â am nôl.
Fy oes sydd rhwng ei fysedd
A'u troi bach sy'n torri bedd.
(Cloc)

Aled Evans
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

27 eiliad