Main content

CRANNOG: Cywydd dyfalu (heb fod dros 12 llinell) i unrhyw wrthrych

‘Between my finger and thumb
The squat pen rests.
I’ll dig with it’
Seamus Heaney

A rhaw finiog ‘sgrifennwyd
Am was bach, am eisiau bwyd.
O boen i Boyne hogwyd barn
Un a gydiai yn gadarn
Fel hen werin y llinach
Yn llafn dur yr awyr iach.

Yn ei law âi’r goes ddi-lol
Yn offeryn corfforol
I weithio cerddi’r tirwedd,
I greu byd ac agor bedd.
A’r rhaw’n arf, yn Nhir na n-Og
‘Sgrifennwyd saga’r fawnog.

Idris Reynolds
10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

37 eiliad