Main content

TYWYSOGION: Soned neu delyneg ' Cornel'

Rhyw ddydd fe fydda i fel pob hen ãr
mewn cornel, rhwng dwy wal yn gaeth,
a'm teulu o fy mlaen, y plant a’u stãr,
fel byd ar sgrin a finnau'n cofio'r hyn a aeth.
Ac wedyn un o ddwsin mud mewn rhes
a dim i’w weld ond lluniau llefydd pell
a merch na wn ei henw’n ennill pres,
rhyw fymryn, ac yn rhannu’r gell.
Ac unwaith yn y pedwar amser daw y plant
i ddeud helo a siarad uwch fy mhen
am gostau cadw Taid, sydd bron yn gant,
ac yna mynd gan ddistaw dynnu’r llen.
A finnau’n cofio’r cynnal tawel fu
gan ongl rhwng dau bared yn fy nhñ.

9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

47 eiliad