Main content

BERWYN: Cân ysgafn 'Y Labordy'

I labordy ar lethrau yr Aran
Aiff nifer o bobl llawn ffydd,
I geisio cael dianc o’r twpdra
A dod o’u hanwybod yn rhydd.
Nid oedd Wayne o ardal Maenceinion
Y seren ddisgleiria yn bod
Ac felly fe aeth am y driniaeth
IQ o dri deg oedd ei nôd.
Rôl cael ei werthuso a’i wirio
A styried be wnai iddo fo,
A phwyso a mesur y costau
Dim ond dau ymennydd wnai’r tro.
Roedd un yn eiddo i gyn – athro
A’i bris yn rhyw dair punt ar ddeg,
A’r llall i gyn Wnidog dros Addysg
A miliwn yn bris digon teg.
‘Ond pam y gwahaniaeth mewn costau’
Medd Wayne rôl pendroni’n hir,
‘Un yr athro sy di ddefnyddio
A’r llall ? - Wel fel newydd yn wir !!

8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

45 eiliad