Main content

TYWYSOGION: Cân ysgafn 'Y Labordy'

TYWYSOGION: Cân ysgafn 'Y Labordy'

Dihangodd Huw Bach y gwningen
O afael y labordy mawr
Roedd o’n chwilio am fyd amgenach
Roedd o’n tynnu at ei ugain oed nawr.

Dihangodd drwy dwll mewn wal goncrid,
A landio mewn llecyn bach gwyrdd,
Ac yno yn neidio a dawnsio
Fe gyfarfu â chwningod fyrdd.

Medd Huw ‘Dach chi i weld yn reit fodlon
Yn byw gyda’ch traed bach yn rhydd,
Dach chi’n amlwg ar ben eich digon –
Ond be ‘dach chi’n wneud drwy’r dydd?

‘Weli di’r cae acw’n llawn moron?
Fe awn yno o dro i dro,
A bwyta a bwyta a bwyta
Mae’r hen ffarmwr yn mynd o’i go!

A weli di’r cae acw’n fan’cw,
Yn letus o wal i wal?
Mi futan ni rheiny i gyd hefyd
Cyn dianc rhag i’r ffarmwr ein dal.

Ac yn y cae acw mae ’na fwnis,
Y rhai dela’ a welis di erioed.
Dan ni’n mynd i’w cyfarfod nhw ’fory,
i jympio yng nghysgod y coed.

Bu Wil yn mwynhau am rhai oriau
Cyn dweud bod ei amser ar ben.
‘Mae’n rhaid i mi droi ar fy union,
Yn ôl at fy nghyfaill côt wen’.
‘
Mynd yn ôl i dy gaets yn y lab 'na?
Rwyt ti’n siarad, yn wir, drwy dy het!’
‘Na. Mae’n rhaid i mi fynd nôl i’r Labordy –
Dwi jest a marw isio sigarét.

8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud