Main content

YSGOL Y BERWYN: Cywydd (heb fod dros 12 llinell) 'Dathliad'

Yn y ffosydd hen ffasiwn
nid oes gwaed fel gwaed y gwn,
nid oes bedd fel budreddi
yn nhir neb ein harwyr ni.

Mae enwau ym Mhorth Menin
yn bod i gofio pob un,
rhestri hir yw’r stori hon,
rhestri ar furiau estron.

Mae dathliad eich hymadael
yn ddi-gyrff, heb fedd i’w gael,
pob man yn gof amdanoch,
pob cae lle mae’r pabi coch.

9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

29 eiliad