Main content

TYWYSOGION: Cywydd (heb fod dros 12 llinell) 'Dathliad'

Nadolig 2013

Yng nghanol yr holl ffoli
ar wrid mab a roed i mi,
am ennyd fer, ddi-seren,
yng ngãyl yr hwyl bûm yn hen.
Bu’r angel yn dawel, do,
tawelach na bedd Teilo
am eiliad. Cwmwl melyn
yn do dros Nadolig dyn.
Er i Siôn frysio inni
wydrau oer o win di-ri,
di-sôn ydoedd llond ei sach.
Hiraeth oedd arna i hwyrach.

9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

36 eiliad