Main content

Telyneg neu Soned: Ffoi

Mae'r byd i'w weld o gopa'r Picws Du
Ac ôl bywydau'n gwau o fryn i fryn,
Mae'r llwybrau'n cynnal olion traed a fu
Yn cilio i'r llonyddwch uwch y llyn.
Daw rhai i'r llecyn yma ar y ban
A chredu bod ’na ffin rhwng chwardd a chri,
Mai ffol oedd gweithred morwyn llyn y fan,
Bod yna amharch yn ei hystum hi.
Caf innau fynd rhwng craig ac awyr las
I'r man lle nad oes pellach ar y daith.
A rhannu wnaf rhyw bwt o dafell gras
Neu roi i'r adar ddarn o fara llaith,
Gan ganfod deigryn mewn chwerthiniad rhydd
A gwên yn ddwfn ym mhob un eiliad brudd.

Aled Evans
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

45 eiliad

Daw'r clip hwn o