Main content

Telyneg neu Soned: Ffoi

“I've got the children to tend
the clothes to mend…â€

Aga i’w sgwrio, labeli ysgol i’w pwytho;
Pentwr o olchi, ‘Dry Cleaning’ i’w gasglu;
Mynd â’r Volvo am ‘valet’, cwrdd â’r nani am baned;
Cewyn i’w dynnu, pen-ôl bach i’w sychu;
Disgwyl archeb o Tesco, rhoi 'Y Gwyll' i recordio;
Cacen Batman i’w phobi, cardiau diolch i’w sgwennu;
Coesau i’w siafio a gwefus i’w wacsio;
Ebyst i’w gyrru, ffrwd Trydar i’w bori;
Gwisgoedd ysgol i’w smwddio, ryg Ikea i’w hŵfro;
'Lean In' i’w ddarllen; a limrig i’w orffen.
Law: tyrd i dywallt amdanaf
sgubo’r cyfan o’r neilltu;
Storm: tyrd i lapio o’m cwmpas
Nes bod y cur yn distewi.
Mwyaren ac iPhone; llond Moleskine o restrau:
A dwi’n gwybod mai fi yw awdur y geiriau;
Y tasgau sy’n codi fel tyrrau i unman
Yn fy nghlymu i’n dynn yn fy hualau fy hunan.

Mari Stevens
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o