Main content

Cân Ysgafn: Chwarae'n trio'n chwerw

Cân Ysgafn: Chwarae'n trio'n chwerw

Roedd Rhys a Mair yn barchus, poblogaidd ar y stryd,
ond yn eu ‘stafell wely, roedd cinc ac arall fyd.
Esgusai fod yn ddoctor, chwaraeai hithau’r claf,
neu weithiau hi oedd feistres ac yntau iddi’n slaf.
Ond gan fod penblwydd pwysig yn awr yn dod yn nes
roedd rhaid cael syniad newydd, un sionc i godi’r gwres.
Fe wisgai ef fel Batman a’i rhwymo hi yn dynn
wrth byst y gwely’n noethlym, heblaw am sane gwyn.
Gwisgodd glog a mwgwd a'i drôns ar y tu fas;
Tra cannwyll serch yn wenfflam i ffwrdd ag e’ ar ras.
Aeth lan i ben y wardrôb yn barod am y naid,
Ond clawr i honno holltodd a chwympodd yn un haid.
Fe dorrodd fraich a’i ddwygoes a’r tafod ga’th ei gnoi,
ond pethau a waethygodd, wa’th ei drws oedd wedi’i gloi.
A fynna buont dridiau ni allent symud cam,
heb wres na bwyd na diod, a diffodd wnaeth y fflam.
O’r diwedd gwelwyd'u heisiau a thorrwyd mewn i’r tŷ,
gwŷr tân, polîs, cymdogion, ac o’r embaras fu!
Ac felly penderfynwyd pan ddaw ei phenblwydd hi
bydd dathlu’n noson dawel, tra’d lan a DVD.

Meirion Jones
8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o