Main content

Cân Ysgafn: Chwaraeon troi'n chwerw

Cân Ysgafn: Chwaraeon troi'n chwerw

Bob nos w’th ddwad adra o’r ysgol fawr ar býs
fe fydda’ ffrae aruthrol a llawer iawn o ffýs
rhwng ‘mrodyr mawr a finna, rhwng duw a’i ysbryd glân,
pwy fydda’ yn ca’l ista’n gada’r w’th y tân.

Gan ma’ fi o’dd y tebyca welsoch rioed i linyn trôns
y fi bob tro a gollai yn hawdd iawn yn y bôn…s(!);
fe setla’s ar greu dyfais a guddiai’n daclus iawn
‘fo hoelan wyth go finiog ar ben draw ‘spring’ go lawn….
a phwy’bynnag fydda’r cynta yn charfflyd yn ei le
o’m siambar sori gallwn dynnu ‘lever’ ….ac Awe!
fe saetha’ yr wyth modfadd fel roced i’w pen-ôl
ac Apollo 11 o frodyr neidiai’r lleuad ac yn ôl.

Roedd Tre Fach a Hiroshima yn chwerw wedi’r bóm,
ac Ewrob gyfa hefyd yn chwerw wedi’r Somme.
Roedd Hitler .....nôl pob tebyg....neitha chwerw ar ‘i daith
wrth iddo blanio rhyfal o gwmpas ’37.
Ond o’r holl hyll ryfelo’dd ac o’r holl ladd di-ri
nid oeddynt i’w cymharu a’r rhyfal yn tŷ ni
pan droiodd chwara brodyr yn chwerw, dipia mân
pan aeth hoelan wyth drwy gwshin y gadar w’th y tân.

Ynyr Williams
8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o