Main content

Cywydd: Noddwr neu Noddwraig

Noddwr (Vincent Tan)

Ein hernes oedd Sadyrnau
oera'r cof yn mwytho'r cae,
A beirdd oedd yn trin y bêl
A'i rhoi i lywio'r awel.
Di-eistedd oedd pob heddiw
A'r teras yn las ei liw.

Ond yng nghysgodion Ionawr
Y mae un â'i arian mawr
Yn rhoi gwerth ar sgorio gôl
O'i lwyfan cyfalafol;
Ni chlyw awel cornel cae
Na dirnad lliw'n Sadyrnau.

Aled Evans
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

32 eiliad

Daw'r clip hwn o