Main content

Cywydd: Noddwr neu Noddwraig

Atom death pliwtocratiwr,
i’n tir ni daeth teyrn o ŵr,
gŵr o aur gwerth daear gron
a’i emau’n tlodi Mammon.
Elusen yw’r Malasiad
ond dyna’i bris - hudo’n brad
a gwelir rhaib gôl a rhwyd,
nawr brain yw’r Adar brynwyd.
Â’i oludedd daw tlodi,
â’i goron aur llygrir ni’n
driw i’r pa lyw fydd o’n plaid
wrth inni werthu enaid.

Dafydd Emyr
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

41 eiliad

Daw'r clip hwn o