Main content

Telyneg neu Soned: Paratoi

Rhwng gadael y tÅ· a dannedd y gwynt
mae darnau o’n siarad
yn hongian fel lluniau.

Ac wrth wisgo geiriau addas
yn y drych,
gwelaf ein noson gynta’ yn y dre’
yn gwisgo dillad ein mamau,
a gormod o liw a sent…
a siarad.

Drwy ’nghorff
lleda sgwrs arall
araf,
yr un a fydd rhyngom heddiw
dros bamffledi ysbyty du a gwyn.
Dwy yn trio torri drwy’r sioc
a gwên ofer.

Un cip arall cyn gorfod gadael
a hanner gweld fy hunan
yn fenyw i gyd.

Mari George
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

38 eiliad

Daw'r clip hwn o