Main content

Telyneg neu Soned: Paratoi

Mor hir y seithmis ers i鈥檙 neges ddod
am fywyd newydd, un a鈥檓 gwna鈥檔 dad-cu;
saith mis y gwau a鈥檙 gwewyr gyda鈥檙 nod
o greu blancedi pinc a 鈥榖wtis鈥 lu.
Ar wal, yn nrysfa鈥檙 lluniau du a gwyn
Mae gwyrth y prifio sy鈥檔 ddirgelwch im:
鈥溾機o鈥檌 throed, 鈥榗o鈥檌 chefn, a dyma鈥檌 phen fan hyn.
Ti鈥檔 gweld nhw?鈥 Wir i Dduw, dw鈥 i鈥檔 鈥榥abod dim!
Fel haul o鈥檙 cwmwl, daw鈥檔 ei thro i鈥檙 byd
I wisgo鈥檙 pinc a diolch gyda gw锚n;
Ond hwnt i鈥檙 m么r disgwylir heb un crud
Ond lludw鈥檙 gad am blant na thyf yn hen,
Am boen eu geni yn y llwch wrth ffoi,
A thorri鈥檜 beddau ydyw鈥檙 paratoi.

Keri Morgan
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

53 eiliad

Daw'r clip hwn o