Main content

Cân Ysgafn: Llythyr Diolch

O 6 Stryd yr Eglwys dwi i’n sgwennu hwn
Dach chi’n gwybod yn iawn lle mae fanno, mwn.
Rhyw air bach o ddiolch Sion Corn eto ‘leni
Am ichi ddod lawr i’n tŷ ni drwy yr oerni ;
A dod yr holl ffordd o wlad y North Pôl,
Gobeithio wir ichi gyrraedd yn ôl.
Rown i wedi gofyn am feic ac am lego
Ond meddwl ydw i eich bod wedi anghofio!
Mae’n debyg y cofiwch y flwyddyn nesa’
Ond mi sgwennaf eto er mwyn eich atgoffa.
Dw i’n falch eich bod wedi sglaffio’r mins pei,
Buodd hwnnw’n y cwpwrdd ers canol July ;
A diolch am yfed y sieri i gyd
Neu mi fydda Mam yn fflat ar ei hyd,
A diolch hefyd i Rwdolff a’i ffrindia
Am adael ychydig o dail ar ‘u hola,
Bydd hwnnw yn wir yn dderbyniol iawn
Er mwyn cael gwely’r riwbob yn llawn.
Unwaith eto ga’ ddiolch i chi, Santa Clôs,
Yn gywir fel arfer, hwyl fawr, Wili Jôs.

Harri Williams
8

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o