Main content

Pennill ymson Seicolegydd Chwaraeon

Dros ddegawd a mwy yn fy ngyrfa, fe lwyddais, drwy fedr a lwc,
I fod yn ysgogiad a noddfa i’r sawl oedd yn chwythu ei blwc.
Rhois hyder i’r rhai oedd yn nerfus i gamu’n llawn dewrder i’r cae,
Gan lorio pob bwgan yn rheibus, fel llew yn ymosod ar brae.
Roedd eraill yn rhy ymosodol, a’m camp gyda nhw oedd eu cael
I ymddwyn fel pobl resymol - yn lle codi dwrn, codi ael.
Ond methiant, rhaid dweud, oedd fy ymdrech, er ceisio drachefn a thrachefn,
I ddeall pam mae mewnwr Cymru mor aml ar wastad ei gefn.

Elin Meek
8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

50 eiliad

Daw'r clip hwn o