Main content

Cywydd: Ynys

Robben, heb wawr o obaith,
a’i waliau moel a’i haul maith,
a’i thir hesb a’i thyrau hi:
onid dyna’r cadwyni
i dorri enaid arwr
ac i ddymchwel gorwel gŵr?

Yn dawel drwy’r chwareli,
yn y llwch, yn nhonnau’r lli,
roedd o raid pan dorrai dydd
dan awyr diwrnod newydd
yma rym, grym mwy ar waith:
Robben a’i gwawr o obaith.

Aron Prichard
10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

40 eiliad

Daw'r clip hwn o