Main content

Telyneg neu Soned: Patrwm

Y synau bach sydd eisiau bod yn eiria’ -
fel ‘mam’ a ‘nain’ a ‘Twm’ sy’n cynnau gwên,
cyn plethu ‘fi’ ac ‘isio’ y tro cynta’
a’r gred mai ‘Na’ yw gair mawr pobol hen.

Wrth efelychu deunod ‘Heno, heno’,
ymrithia sŵn yn synnwyr ‘hen blant bach’,
cyn ffrwydro’n fwrlwm gwyllt o blesio a phlagio
llawn ‘sws i mami’ a direidi iach.

Y geiriau’n rhewi’n swil yng ngwres dau gariad
wrth gyffwrdd llaw â gwên y wefus fud,
cyn mentro oes â chwestiwn bery eiliad
a gair o ateb dry’n gyfrolau’u byd.

Mân-siarad y blynyddoedd mor ddi-feddwl,
distawrwydd yn dweud mwy am wefr a chraith,
cyn crefu am glywed unrhyw air bach carbwl
gan wraig a mam a nain ar ben y daith.

Eifion Lloyd Jones
10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o