Main content

Cân Ysgafn: Y Daith Ddirgel

Cân Ysgafn: Y Daith Ddirgel

Wedi diffodd golau'r gegin llithrais allan drwy'r drws cefn.
Roedd 'y ngwraig 'di mynd i'r bingo, bob nos Iau dyna ydy'r drefn.
Dim ond pedair gardd sy rhyngom, fi a'r siapus, rywiol Jean.
Ceisiais neidio ffens drws nesa a syrthio'n galed ar fy ... nglin.
Codi'n ara yn y twllwch, rwbio'r baw o'r siaced wen.
Ymlwybro wedyn yn ofalus tua gwrych gardd Nymbar 10,
Methu gweld y ferfa'n fanno, syrthio drosti i'r domen dail,
Codi'n gyflym, baglu eto, ysgwyd polyn lein i'w sail.
Dim ond un ardd sy' 'na eto a chaf Jean am lawer awr.
Ymlaen yr af dros weiren bigog a rhwygo nghrys o'r cesail lawr.
Croesi rhesi tatws cynnar, colli esgid yn y baw,
Dringo clawdd yw'r frwydr nesa, finnau bellach yn Rhif Naw.
TÅ· nesa rwan, rwy'n cynhyrfu, anghofiais am bwll pysgod Jean,
Ond er cael trochiad mewn dwr budr dydw i ddim yn teimlo'n flin.
Cnocio'r ffenest gefn yn ddistaw wedi'r daith lwyddiannus hon,
Mi gaf Jean i mreichiau'n fuan, mae fy ysbryd llesg yn llon.
Golau'r gegin nawr yn diffodd a'r drws cefn yn agor sydd.
Daw dwy fraich i'm tynnu atynt, minnau'n dilyn yn llawn ffydd.
Caf fy ngwthio i fyny'r grisiau, hithau'n glos yn dal yn dynn.
''Fi 'dy Nain, 'dy Jean ddim adra, mae ngwely i draw fan hyn!''

Moi Parry
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o