Main content

v

Tatws ar eu traed sgen pel-droedwyr,
Ar ddwylo mae rhai beirdd medda' nhw,
Ar fysedd y bois chwarae piano
Mae 'na lun Middle C yn datΕµ.
Mae bois chwarae rygbi'n gyhyrog,
A'u breichiau nhw yn luniau i gyd,
Mae hogan drws nesa yn fodel
A'i choesa yn floda ar eu hyd.
A fama dwi inna'n pryderu,
Ac yn poeni yn fawr coeliwch fi,
Lle tybed ca' i roi fy un innau
Achos dyn llnau toiledau ydw I.

John Gruffydd Jones
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

44 eiliad

Daw'r clip hwn o