Main content

Pennill Ymson mewn Parlwr Tatŵ

Pennill Ymson mewn Parlwr Tatŵ yn yr Unfed Ganrif ar Bymtheg.

Catherine fu’r gynta i mi’i sgythru arno
a’i chwalu - er mwyn rhoi Anne odano;
’mhen blwyddyn roedd ’nôl... i mi sgythru Jane,
ac yna Anne arall, ar ei floneg hen;
y nesa’ oedd Catherine Howerd - rhag drysu,
gan mai Cath oedd y gynta’ i’w chrafu a’i chwalu,
a rwan mae o am newid yr Howerd yn Parr –
ond does ’na’r un mymryn o’i din o yn sbâr.

Eifion Lloyd Jones

9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

40 eiliad

Daw'r clip hwn o