Main content

Cywydd yn dechrau gyda'r gair 'Fesul'

Fesul dyn, fesul dynes
yr ânt yn ufudd i’w rhes;
Law yn llaw am y gawod
Yn ddall i’r hyn oedd i ddod.
Yn eu poen yn ddi-apêl
Diosg eu streipiau’n dawel.
Esgyrn a chroen yn gwasgu
Yn dynn i gorneli du.
Heb ddirnad ‘r anghredadwy’n
Oer a noeth mewn siambr nwy.
Ofer fu’u sgrech am hafan;
Tagu a mygu’n y man.

Marc Lloyd Jones
8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

31 eiliad

Daw'r clip hwn o