Main content
Telyneg neu Soned: Stwr.
Drwy’r plu ffals
a’r tinsel rhad
dwi’n eu tynnu,
o groto i groto
ar drên fy atgofion .
Crogi ‘ngobeithion
yn hud o’u cwmpas,
a lapio’n ‘nisgwyliadau
yn dwt mewn ruban del
tan y bore,
pan agorwn
sach
llawn celwydd.
Nia Môn
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 26/01/2014
-
Englyn: Papur.
Hyd: 00:14
-
Pennill Ymson athro neu athrawes piano.
Hyd: 00:20
-
Pennill Ymson athro neu athrawes piano.
Hyd: 00:21