Main content
Telyneg neu Soned: Stwr.
Ei gwasg sy’n fain; rhy fain i’w deunaw blwydd,
 hithau’n honni’n daer ei bod hi’n llawn.
Mae’r celwydd erbyn hyn yn dod mor rhwydd,
 hithau wedi hen berffeithio’i dawn.
Y llais bach yn ei meddwl sy’n cryfhau
Gan fynnu llwgu’i chorff, er gwaetha’r boen.
Nid yw’n distewi, er bod esgyrn brau
Yn bygwth torri tyllau drwy ei chroen.
Mae’r llais yn cyfri’r briwsion bach ar ras,
A thyfu’n farus wna, o fis i fis,
O sibrwd tawel, cudd i sgrechian cras
Gan wthio bys y dafol eto’n is.
Ei chorff, yn sgerbwd brau, sy’n ildio’r tir,
A sgrech y llais a dry’n dawelwch hir.
Gwawr Ifan
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 26/01/2014
-
Englyn: Papur.
Hyd: 00:14
-
Pennill Ymson athro neu athrawes piano.
Hyd: 00:20
-
Pennill Ymson athro neu athrawes piano.
Hyd: 00:21