Main content

Cywydd yn cychwyn gyda'r geiriau: 'Heb siw na miw'.

Heb siw na miw amheuon
sy'n cronni cyn hollti hon
o'i hunan, cyn taranu,
cyn melltio a deffro'r du,
y cwilt amdani sy'n cau
yn alawon o liwiau.

"Gawn ni bils, ac yna bydd
i'w dolur ymdawelydd,
a chysur gan bur hoff bau
(hen diwn 'di gwisgo'n denau)."

Go dawedog 'di wedyn.
Dim stormydd. Llonydd fel llyn.

Nici Beech
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

25 eiliad

Daw'r clip hwn o