Main content

Cywydd yn cychwyn gyda'r geiriau 'Heb siw na miw'.

Heb siw na miw y mae o
Ei hunan yma heno,
Ni chwyd, fyth mwy o’i chadair’
Dod o’r gwyll i dorri gair
Ni all ef fyth deimlo’i llaw
Yno’n estyn o’r distaw,
Ni chaiff bleser tynerwch
Yn ei llais, mae hwnnw‘n llwch.
Yn unig, gwêl ei hwyneb
Yn un wen, ond nid oes neb
I’w gyfarch, nac i’w gofio;
Yn ei gell unig yw o.

Ieuan Parri
8

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

28 eiliad

Daw'r clip hwn o