Main content

Can: Doethion

Mi gwrddais ΓΆ llawer o ddoethion
Mewn ysgol a thafarn a gwaith,
A nawr rwyf am rannu'r profiadau
A gefais wrth fynd ar fy nhaith.

Fe athro, fe holais y cwestiwn
Paham mae gwddf hir gan jiraff ?
Am fo'i ben e mor bell wrth i gorff e'
Wedd ateb Wil bach yn reit graff.

Sawl pelen o ddafe sydd isie
I fystyn o amgylch y sir?
A'r ateb gan strab yn y cefen-
"Mond un, os yw'n ddigon hir"

Mae syniadau reit finiog gan ffrindiau
Am bethau fel hyn ma nhw'n son,
Gair arall nid oes am 'thesaurus'
Paham mae gan seicics rif ffΓ΄n ?

Ond mae'n well 'da rhai fod yn dawel
Yn ddoeth ac yn dweud dim byd,
Gan wybod, os fentra nhw siarad
Y ddryllia nhw'r ddelwedd i gyd.

Terry Reynolds
8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o