Main content

Cywydd: Clos

Calon amaethyddiaeth oedd,
O hyd man trafod ydoedd.
Wedi’r dwt pan dorrai’r dydd
Aem mas i drin y meysydd.
Roedd deialog cymdogol
A’i swyn iach ers oesau’n ôl,
A’r glonc dros asennau’r glwyd
Yn hael yn iaith ein haelwyd.
Ond daeth Sais yma i dreisio,
Ef a’i rwysg dros berci’r fro,
A hafan yr anifail
Heb sawr hen y domen dail.

Emyr Oernant
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

30 eiliad

Daw'r clip hwn o