Main content

Cywydd: Clos

Iet y clos wrth allt y Clun
Ar ei hyd yn y rhedyn,
A gwaddol y rhigolau
Hyd y cefn sydd wedi cau;
Y brwyn dyf yn batshin braf –
Erw’n crebachu’n araf;
A daw lloc o ddefaid llwyd
I hêl ar lawr yr aelwyd;
Y gwynt, rhwng y trawstiau’n gwau,
Yn bodio’r ysgerbydau.

Sarhad lle bu paradwys
A gwae lle bu unwaith gwys.

Rachel James
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

29 eiliad

Daw'r clip hwn o