Main content

Carol Blygain: Gwyrth y Geni

Dewch, dathlwch, Gristnogion,
Yn falch ac yn fodlon,
Fe gododd gobeithion y byd.
Daeth Iesu yn faban,
Yn fawr, er yn fychan,
I'n geni ni'n gyfan i gyd.

Duw roddodd addewid,
I godi ein gofid,
Cyflwyno ei ryddid yn rhodd;
Fe gadwodd ei fargen,
Sefydlodd ei seren,
Diwallodd fy angen o'i fodd.

Dyrchafodd ni'r gweision
I'w fab yn gyfeillion,
Fu'n byw fel gwehilion yn hir;
Oherwydd ei ddyfod,
I ni ei adnabod,
Fe gawsom ni gymod ΓΆ'r Gwir.

Dewch, dathlwch, Gristnogion,
Yn falch ac yn fodlon,
Duw gododd obeithion y byd;
Yng nghysgod y groesbren,
Ym mrathiad yr hoelen,
Cyflawnodd ei fargen ΓΆ'i fyd.

Terwyn Tomos
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

51 eiliad

Daw'r clip hwn o