Main content

Carol Blygain: Gwyrth y Geni

Yn Llyfyr y Bywyd cawn weld, o’i agoryd,
Holl hanes y golud yn glir,
Am stori cenhedliad yr Iesu ein Ceidwad,
Heb ynddo’r un gwyriad o’r gwir.
Yn nydd Herod frenin y Baban dilychwin
I deulu cyffredin a roed
Yn rhodd gan y Duwdod i ddangos ei ddyndod
Fel arwydd o’r undod erioed.
Heb gysgod un cronglwyd, heb wely nac aelwyd,
Anrhydedd ni roddwyd i’w radd,
Ond cafodd gymwynas, er ised ei hurddas –
Man benthyg hen gowlas a gadd.

Ac eto, mewn difri, fe ddywed y stori
(Mae hon yn adroddi yn drist),
Wrth gablu yn ddigllon a phoeri melldithion,
Bu’r angau yn greulon i Grist.
Cymwynas gan wrda o Arimathea,
Wrth fenthyg ei gladdfa yn glau,
Wnaeth ddwyn corff yr Iesu i’w ogof a’i gladdu
A maen rhoed i’w gelu a’i gau.
Ond yna ’mhen tridiau fe’i codwyd o’r angau
A daeth o’i grafangau yn fyw,
A mwyach mae’n eiriol dros bob enaid meidrol
I droi rhag y ddiafol at Dduw.

Dewi Pws
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o